Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Tachwedd 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau ac unigolion sydd wedi'u heffeithio gan y tân yn y Fenni?
I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr her 50 diwrnod newydd i fyrddau iechyd fynd i'r afael ag oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty?
(5 munud)
(60 munud)
NDM8718 Buffy Williams (Rhondda)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef ‘A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024, a'r fersiwn hawdd ei deall a osodwyd hefyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2024.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024.
(60 munud)
NDM8720 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adfer safleoedd glo brig, a osodwyd ar 8 Awst 2024.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2024. Ymatebodd (Saesneg yn unig) preswylwyr Abertawe ar 22 Awst 2024. Ymatebodd (Saesneg yn unig) Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar 13 Medi 2024.
(60 munud)
NDM8721 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai 14 Tachwedd 2024 yw canfed diwrnod Eluned Morgan AS fel Prif Weinidog Cymru.
2. Yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog wedi sefyll dros Gymru a sicrhau'r gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi amlinellu gweledigaeth newydd gynhwysfawr ar gyfer ei Llywodraeth.
Yn gresynu nad yw’r Prif Weinidog wedi llwyddo i wneud yr achos yn ddigon cryf gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros:
a) cyflwyno fformiwla cyllido teg i gymryd lle fformiwla Barnett;
b) datganoli Ystad y Goron;
c) digolledu Cymru’n llawn am wariant ar HS2;
d) gwrthdroi’r penderfyniad i gael gwared ar lwfans tanwydd y gaeaf i rai pensiynwyr; ac
e) cael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf gan gynnwys:
a) sefyll i fyny dros deuluoedd drwy ariannu codiadau cyflog uwch na chwyddiant i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus a thrwy orffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru;
b) sefyll i fyny dros y GIG drwy ddarparu £28 miliwn yn ychwanegol i fynd i’r afael â rhestrau aros a thrwy agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i hyfforddi meddygon y dyfodol; ac
c) sefyll i fyny dros Gymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, partneriaeth sydd eisoes wedi sicrhau setliad ariannol gwell i Gymru a £25 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith i ddelio â thomenni glo nas defnyddir.
(30 munud)
NDM8717 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol - pla Cymru heddiw.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Tachwedd 2024